2013 Rhif 1561 (Cy. 142)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o newidiadau i Reoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ddod i rym ar   4 Mai 2013 (“Deddf 2013”). 

Mae adran 94 o Ddeddf 2013 yn rhoi hawl i rieni i gyflwyno deiseb i gael cyfarfod gyda chorff llywodraethu’r ysgol lle y mae eu plentyn yn ddisgybl cofrestredig. Mae adran 95 o Ddeddf 2013 yn diddymu’r ddyletswydd ar gorff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol yn adran 33 o Ddeddf Addysg 2002. 

Mae paragraffau (2), (3)(a) a (b) a (4) o reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau yn Rheoliadau 2011 at y ddyletswydd i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol yn adran 33 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae rheoliad 5 o Reoliadau 2011 yn darparu y dylai copi o adroddiad llywodraethwyr yr ysgol gael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i rieni oni bai bod un o’r eithriadau a nodir yn y rheoliad hwnnw yn gymwys. Mae paragraff (3)(c) o reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau 2011 er mwyn ychwanegu at y rhestr o eithriadau o ran pa bryd y mae rhaid i gopi o adroddiad y llywodraethwyr gael ei ddarparu yn rhad ac am ddim i rieni disgyblion cofrestredig.

Mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2011 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gynnwys gwybodaeth benodol mewn perthynas â’i ddyletswydd i gynnal cyfarfod rhieni yn adran 94 o Ddeddf 2013 yn ei adroddiad blynyddol.


2013 Rhif 1561 (Cy. 142)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed                               24 Mehefin 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       27 Mehefin 2013

Yn dod i rym                    18 Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 18 Gorffennaf 2013.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011([2]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 hepgorer y diffiniad o “cyfarfod rhieni blynyddol” (“annual parents’ meeting”).

(3) Yn rheoliad 5—

(a)     hepgorer paragraffau (1)(c) a (2)(b);

(b)     ym mharagraff (2) hepgorer “na’r gofyniad ym mharagraff (1)(c)”; ac

(c)     ym mharagraff (2)(a) ar ôl “paragraffau 1,” mewnosoder “1A, 1B,”.

(4) Yn rheoliad 6 yn lle “paragraffau (a) nac (c) o reoliad 5(1) yn gymwys” rhodder “paragraff (a) o reoliad 5(1) yn gymwys”.

(5) Yn lle paragraff 1 o Atodlen 2 rhodder—

1

Pan fo corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod rhieni yn unol ag adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013—

(a)   y dyddiad y cynhaliwyd y cyfarfod;

(b)  lle y cynhaliwyd y cyfarfod;

(c)   y rhesymau a roddwyd gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol dros ddeisebu i gael cyfarfod;

(d)  enwau’r personau a ganlyn a fu’n bresennol yn y cyfarfod—

                       (i)  aelodau o’r corff llywodraethu;

                      (ii)  aelodau o staff yr ysgol;

                     (iii)  cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol; a

                     (iv)  enw unrhyw berson arall ac eithrio enw rhiant disgybl cofrestredig na fu’n bresennol yn rhinwedd ei swydd fel aelod rhiant-lywodraethwr o’r corff llywodraethu;

(e)   faint o rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol a fu’n bresennol yn y cyfarfod;

(f)   disgrifiad byr o’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod;

(g)  disgrifiad byr o’r camau gweithredu y penderfynodd y corff llywodraethu eu cymryd, os bu rhai, o ganlyniad i’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod; a

(h)  disgrifiad byr o ganlyniad y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu, os bu rhai, o ganlyniad i’r materion a drafodwyd yn y cyfarfod.”.

(6) Ar ôl paragraff 1 o Atodlen 2, mewnosoder—

1A

Pan na fo corff llywodraethu wedi cynnal cyfarfod rhieni yn unol ag adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 datganiad byr i’r perwyl hwnnw.

1B

Pan fo corff llywodraethu wedi cael deiseb i gynnal cyfarfod rhieni yn unol ag adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 ond ni chynhaliwyd cyfarfod—

(a)   datganiad byr i’r perwyl hwnnw;

(b)  y diben a roddwyd gan y rhieni ynghylch yr angen i gynnal cyfarfod; ac

(c)   y rheswm dros beidio â chynnal cyfarfod.”.

 

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

24 Mehefin  2013

 



([1])           2002 p.32. Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 30 gan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), adran 103(1)(a).  Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 30 a 210 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([2])           O.S. 2011/1939 (Cy.207).